Cwestiwn
1 -
Yn
eich barn chi, a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn
cyfrannu at y deilliannau a’r targedau a nodir yng Nghynllun
Strategol y Gymraeg mewn Addysg Llywodraeth Cymru?
|
Mae
pob Awdurdod Lleol (ALl) yn ymrwymedig i ddatblygu’r Gymraeg
ac mae yna ewyllys da tuag at yr iaith ar draws Awdurdodau
Cymru.
Mae
Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Llywodraeth
Cymru yn ddogfen gynhwysfawr a phwrpasol sy’n
nodi’n glir gweledigaeth LlC a’i gysylltu’n
gadarn gydag Iaith Pawb (2003). Er hynny mae’n
ddogfen sydd wedi dyddio gan y nodir pethau sydd bellach yn hanes
e.e. Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion ac mae datblygiadau
arwyddocaol eraill wedi digwydd ers ei chyhoeddi.
Dylai
Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSyGmA
)Awdurdodau Lleol fod yn ddogfennau dylanwadol a phwerus sy’n
cyflawni’r deilliannau a’r targedau a nodir gan LlC.
Mae’r canllawiau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru yn cadw
ffocws Awdurdodau Lleol ar y nodau a’r amcanion strategol.
Mae’r broses cymeradwyo Cynlluniau yn drwyadl ac yn
heriol.
·
Mae’r templed ar gyfer creu’r CSyGmA yn hir ac
yn gymhleth e.e. Mae cynllun Sir Gâr yn 66 o dudalennau ac
felly mae colli ffocws ar y prif flaenoriaethau’n bosibl.
Mae’r creu templed/cwblhau CSyGmA yn gymhleth iawn oherwydd
natur ieithyddol a strwythurau addysg gwahanol ar draws Siroedd
felly a yw un templed/fformat yn addas? Oni fyddai’n fwy
addas I ALl ddefnyddio'r trefniadau cynllunio busnes lleol sydd
eisoes yn bodoli ac yn cael ei gefnogi gan strwythurau
corfforaethol y cynghorau?
·
Byddai gwell trefn o ran trafod a rhannu arfer ar
lefel strategol yn sicrhau cysondeb ar draws Cymru o ran cynnwys y
cynlluniau a chysondeb o ran disgwyliadau- a yw LlC yn disgwyl mwy wrth
rai ALl ac yn mynnu targedau uwch? Byddai hyn hefyd yn hwyluso
perthynas agosach rhwng CSyGmA Awdurdodau Lleol
gwahanol/Consortia.
Bydd ymateb i’r Safonau iaith a gyflwynwyd i
bob Cyngor Sir hân y Comisiynydd Iaith yn gymorth
gyda’r agenda yma hefyd.
|
Os ydych o’r farn nad yw Cynlluniau
Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cyfrannu ddigon, sut y gellir
datrys hyn?
|
Mae angen i
bob CSyGmA
adlewyrchu'r Cynllun
Strategol y Gymraeg mewn Addysg Llywodraeth Cymru
ac i fod yn uchelgeisiol o ran addysg
Gymraeg- mae rôl gan bob ALl.
Dylai fod
arweiniad cliriach o ran sut mae Fforwm y CSyGmA yn cael eu
datblygu gyda’r cyfle wedyn i ddehongli’n
lleol.
Mae
heriau/anawsterau cyllido mewn ALl yn arwain at her i weithredu
targedau'r CSyGmA ac felly collir y ffocws ar ofynion Cynllun
Strategol y Gymraeg mewn Addysg Llywodraeth Cymru. Mae toriadau
wedi body n yr RSG dros gyfnod ac felly mae’n rhaid I ALl
flaenoriaethu gwariant. DYLID SICRHAU CYLLID PWRPASOL AC
YSTYRIED ARIANNU SWYDDOG ARWEINIOL AR GYFER Y CSyGMa YMHOB
CONSORTIA/ALl- esiampl Sir Gaerfyrddin.
Dydy goblygiadau’r strategaeth ddim yn cymryd i
ystyriaeth yr ystod o fodelau darparu o ran addysg Gymraeg yng
Nghymru h.y. does dim un ffordd i siwtio pob awdurdod lleol na
chonsortia chwaith. RHYDDID I DDATBLYGU YMATEB LLEOL/TREFN ALl O
WEITHREDU/CYFLAWNI NODAU LlC.
|
Cwestiwn 2
- Yn eich barn
chi, a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn
sicrhau’r newidiadau angenrheidiol mewn awdurdodau lleol, neu
a allant wneud hynny (er enghraifft, sicrhau eu bod yn darparu ar
gyfer unrhyw gynnydd yn y galw am addysg Gymraeg)?
|
Mae
her gan Awdurdodau Lleol o ran blaenoriaethu a chyllido'r holl
ddatblygiadau sy’n angenrheidiol. Ar hyn o bryd mae ffocws
amlwg ar godi safonau, gwella dysgu ac addysgu, datblygu
arweinyddiaeth, paratoi ar gyfer newid yn neddfwriaeth Addysg
Arbennig a
gweithio ar lefel Consortia.
Mae
datblygu’r Gymraeg yn amlwg ac yn uchel ar agenda Awdurdodau
Lleol ond oherwydd sefyllfa leol mae’n is ar y rhestr
blaenoriaethau mewn rhai ardaloedd.
Yr
her bennaf sy’n wynebu rhai siroedd yw sut orau i ateb y galw
am addysg cyfrwng Cymraeg. Mae gwaith mesur y galw yn tynnu sylw
rhieni at fuddion dwyieithrwydd ac yn gorfodi rhai siroedd i
ystyried y galw a gweithredu. Serch hynny, nid yw’r broses
gyfreithlon yn hwyluso cynyddu’r ddarpariaeth yn arbennig os
oes angen gwneud newid statudol i gymeriad Ysgol.
Mae’r
CSyGmA yn mynd peth ffordd er mwyn sicrhau newidiadau o ran darparu
ar gyfer cynnydd yn y galw am addysg Gymraeg. Er hynny
byddai’n fanteisiol i gael trefn ‘Mesur y
Galw’/adnodd oddi wrth LlC i fynd i’r afael
â’r her yma. A oes arfer dda yn bodoli y gellir
ei rannu?
Ar
lefel genedlaethol byddai’n fanteisiol i ddatblygu pecyn o
ddeunyddiau sy’n marchnata buddion addysg ddwyieithrwydd y
gellir eu haddasu i ymateb i angen lleol- ar hyn o bryd mae ALl yn
gweithredu ar eu pennau eu hun. Byddai taflen i athrawon i
gynorthwyo trafodaeth gyda rhieni am addysg ddwyieithog yn
ddefnyddiol a phamffledi gyda’r prif negeseuon i
rieni.
|
Os ydych o’r farn nad yw Cynlluniau
Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau newidiadau, neu na allant
wneud hynny, sut y gellir datrys hyn?
|
Mae CSyGmA yn
cyfeirio at symud ysgolion ar hyd y continwwm iaith.
Mae’r drefn o orfod cau ac ailagor ysgolion
er mwyn newid eu statws iaith ar hyd y continwwm yn llyffethair.
Mae hyn yn ofynnol ar gyfer newid statws iaith dosbarth
hefyd.
Er i LlC
gymeradwyo CSyGmA Awdurdodau nid yw deddfwriaeth/canghennau eraill
o LlC yn hwyluso’n gwaith e.e. i newid cymeriad/natur
ieithyddol Ysgol mae proses hir a chymhleth o ymgynghori ac
ati.
Mae angen I
LlC a/neu ESTYN i ddatblygu trefn o rannu arfer sy’n
effeithiol ac sy’n llwyddo. O edrych ar Adroddiadau Blynyddol
Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg LlC rhoir sylw i’r hyn mae
Llywodraeth Cymru wedi ei wneud ond ni nodir astudiaethau achos
sy’n cofnodi arfer dda/effeithiol o fewn ALl.
|
Cwestiwn 3
- Beth yw eich
barn ar y trefniadau ar gyfer pennu targedau; monitro; adolygu;
cyflwyno adroddiadau; cymeradwyo a chydymffurfio â gofynion
Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (a rôl awdurdodau
lleol a Llywodraeth Cymru yn y cyswllt hwn)?
|
Mae’r
trefniadau yn gyffredinol yn addas ac yn bwrpasol. Mae’r
strwythur monitro/ adrodd yn sicrhau bod y Cynlluniau’n
gyfoes a phwrpasol ac yn annog ALl i gadw sylw parhaus arnynt. Er
gellir gweld hyn fel dyblygu gwaith gan fod Fforwm CSyGmA ar
gael i wneud y gwaith yma yn lleol.
Mewn
siroedd lle mae rôl Ysgolion Cymraeg ac Ysgolion Saesneg yn
glir mae'r drefn yn addas ond mae'r trefniadau ar gyfer pennu
targedau yn creu problemau yn y siroedd hynny lle nad oes ysgolion
yn darparu naill ai yn y Gymraeg neu yn y Saesneg yn unig- hynny yw
ysgolion dwy ffrwd/dwyieithog.
Yn
ogystal mae llunio targedau trosglwyddo yn haws mewn rhai
awdurdodau e.e. llunio targed ar gyfer dilyniant yn haws mewn
sefyllfaoedd ble mae teuluoedd yn penderfynu bod y plant yn gychwyn
ar daith addysg Gymraeg yn dair ac yn para hyd at ddiwedd cyfnod
ysgol. Mae’n fwy cymhleth yw yn y siroedd hynny ble mae
amrywiaeth o ddarpariaeth addysg ieithyddol yn y sector
uwchradd.
Dylai’r
monitor/adrodd fod yn gryno ac yn ddefnyddiol ac wedi ei ffocysu ar
y prif nodau a dylai fod yn rhesymol.
|
Cwestiwn 4
- Yn eich barn
chi, a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn amlygu
rhyngweithio effeithiol rhwng strategaeth addysg Gymraeg
Llywodraeth Cymru a deddfwriaeth a pholisïau perthnasol
eraill*? (*er enghraifft, polisi cludiant ysgolion; rhaglen
Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain; y datganiad polisi - Iaith
fyw:iaith byw; Dechrau’n Deg; polisi cynllunio)
|
Mae gweithio o
fewn rheoliadau ac ymateb i ofynion gwahanol adrannau LlC yn heriol
ar adegau. Nid yw’n amlwg fod pob adran yn rhoi’r un
sylw/pwysigrwydd i’r Gymraeg wrth gyfathrebu/datblygu polisi.
Gellir cyflwyno’r un feirniadaeth i adrannau Cynghorau
Sir.
Byddai’n
dda o beth i bob adran gydweithio er mwyn sicrhau dilyniant
ieithyddol llwyddiannus a rhoi cefnogaeth i swyddogion ALl sydd
a’r cyfrifoldeb am weithredu ar argymhellion y
CSyGmA.
Mae
argymhellion Adroddiad Donaldson DYFODOL LLWYDDIANNUS yn
galonogol a byddai eu gweithredu yn cryfhau sefyllfa’r
Gymraeg mewn Addysg, ond, bydd yn rhaid sicrhau fod yr argymhellion
yn cael eu gweithredu a’u gwireddu.
Byddai’n ddefnyddiol cael cefnogaeth swyddogion LlC
pan mae rhieni yn herio datblygiadau a phenderfyniadau a wneir gan
ALl sy’n deillio o’r CSyGmA. Yn fwy aml na pheidio
mae’r cyngor a roir yn niweidio’r broses ac yn
arafu/gorfodi’r ALl I ddod a’r newid i ben.
|
Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut
y gellir eu datrys?
|
Byddai’n fanteisiol i arweinwyr Llywodraeth Cymru
gymryd pob cyfle i ddatgan yn glir ac yn gyhoeddus ymrwymiad
i’r weledigaeth- Cael system
addysg a hyfforddiant sy’n ymateb mewn ffordd wedi’i
chynllunio i’r galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg,
sy’n cyrraedd ein cymunedau amrywiol ac yn eu hadlewyrchu ac
sy’n sicrhau cynnydd yn nifer y bobl o bob oedran a chefndir
sy’n rhugl yn y Gymraeg ac sy’n gallu defnyddio’r
iaith gyda’u teuluoedd, yn eu cymunedau ac yn y
gweithle.
Buddsoddiad addas
i gyflogi swyddogion i arwain/cefnogi a chyllid i baratoi
deunyddiau i gefnogi’r gwaith.
Byddai’n fanteisiol sicrhau amser i gyd gordio'n
lleol ac yn genedlaethol.
Mae prif grant hyfforddiant yn cael ei ddosbarthu i
glystyrau o ysgolion erbyn hyn, felly rhaid i hyfforddiant Cymraeg
gystadlu gyda blaenoriaethau eraill am sylw.
|
Cwestiwn 5
- Yn eich barn
chi, a yw canlyniadau’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn
Addysg yn sicrhau canlyniadau teg i bob disgybl, gan gynnwys er
enghraifft, disgyblion cynradd/uwchradd; plant o gartrefi incwm
isel?
|
Ar
bapur mae'r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn ymrwymo i
sicrhau canlyniadau teg i bob disgybl. Serch hynny mae yna
heriau-
·
Sicrhau darpariaeth ieithyddol safonol i gynnal pob disgybl
yn enwedig yn y sector anghenion arbennig.
·
Sicrhau gweithlu gyda’r sgiliau i ddarparu’n
ddwyieithog.
·
Cydlynu darpariaeth addysg gyda mentrau eraill- Cymraeg I
Oedolion, datblygiadau cymunedol.
Yn
aml nid yw staff Ysgol (Penaethiaid/athrawon) yn gallu egluro
manteision dwyieithrwydd i rieni.
|
Os ydych o’r farn nad yw canlyniadau’r
Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau canlyniadau
teg, sut y gellir datrys hyn?
|
·
Buddsoddiad yn y gweithlu gyda’r nod o
ddatblygu ymarferwyr dwyieithog effeithiol ar gyfer pob Ysgol. Yr
unig ffordd i ddatblygu’r Gymraeg fel Ail Iaith/darparu ar
gyfer ADY drwy’r Gymraeg yn effeithiol yw cael
cyflenwad o staff cymwys.
·
Her cyflogi staff cefnogol gyda sgiliau
dwyieithrwydd addas.
·
Cydlynu gwasanaethau yn fwy effeithiol gan sicrhau
fod pob gwasanaeth/ asiantaeth sy’n cefnogi’r
Gymraeg yn cydweithio.
·
Datblygu pecyn o wybodaeth i ysgolion i gynorthwyo
gyda’r sgwrs am fuddion addysg ddwyieithog.
·
Angen buddsoddi mewn rhaglen o ddatblygu sgiliau
iaith athrawon- mae nifer o staff yn syrthio rhwng dwy stôl y
Cwrs Sabothol /Gloywi Iaith. Mae angen darparu ar y lefel
ganolradd, gan ganolbwyntio ar sgiliau addysgu cyfrwng
Cymraeg.
|
Cwestiwn 6
- Os byddai'n
rhaid ichi wneud un argymhelliad i Lywodraeth Cymru o'r holl
bwyntiau rydych wedi'u nodi, beth fyddai'r argymhelliad
hwnnw?
|
Hwyluso'r broses o symud ysgolion ar hyd y
continwwm iaith.
Mae'r broses o newid categori iaith ysgolion yn
heriol.
|
Cwestiwn 7
- A oes gennych
unrhyw sylwadau neu faterion eraill yr hoffech eu codi na soniwyd
amdanynt yn y cwestiynau penodol?
|
·
Rhaid gweithio tuag at ledu arfer dda ac edrych y
tu hwnt i Gymru o ran hybu a chynnal system addysg
ddwyieithog.
·
Rhaid hybu manteision dwyieithrwydd ar lefel
cenedlaethol a chwalu'r 'myths'.
·
Rhaid cynorthwyo ein disgyblion i ymfalchïo
yn yr iaith a sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn fwy nag iaith y
dosbarth.
·
Angen i ni weithio yn well gyda phartneriaid
(mentrau, Trywydd ac ati) a dysgu pa gymorth ac arbenigedd sydd ar
gael
·
Llyfrgell ar-lein o adnoddau i hyrwyddo’r
Gymraeg.
·
Safonau iaith Athrawon Newydd Gymhwyso- angen
cydweithio’n nes gyda darparwyr.
|